Beth yw cyfanswm eich incwm cartref ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaw i ben 5 Ebrill 2008?

Nodwch gyfanswm yr incwm ar gyfer eich cartref; dyma'r swm sy'n cael ei dalu i'ch cartref bob blwyddyn cyn treth.

Dylech gynnwys incwm yr oedolion canlynol yn eich cartref:

  • rhieni
  • gwarcheidwaid
  • llys-rieni
  • partneriaid rhieni
  • partneriaid sifil rhieni

Peidiwch â chynnwys yr incymau canlynol:

  • brodyr a chwiorydd sy'n oedolion
  • rhieni, llys-rieni neu warcheidwaid os nad ydynt fel arfer yn byw yn yr un cartref â chi (hyd yn oed os ydynt yn gwneud taliadau cynhaliaeth)

A ydy eich cwrs yn Amser Llawn neu'n Rhan-amser?

Ystyrir bod eich cwrs yn Amser llawn os ydych yn mynychu eich ysgol neu goleg am fwy na 500 o oriau yn ystod y flwyddyn academaidd.

Ystyrir bod eich cwrs yn Rhan-amser os ydych yn mynychu eich ysgol neu goleg rhwng 275 a 499 o oriau o dan arweiniad yn ystod y flwyddyn academaidd.

Os ydych chi'n cael llai na 275 o oriau o dan arweiniad yn ystod y flwyddyn academaidd, ni allwch hawlio GDC.

Cau